2011 Rhif 2610 (Cy. 283)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle'r un bresennol.

 

 


2011 Rhif  2610 (Cy. 283)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                           01  Tachwedd 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       02 Tachwedd 2011

Yn dod i rym                     30 Tachwedd 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2011.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992([3]).

Diwygio Rheoliadau 1992

2.(1)(1)  Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.

(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

 

 

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

 

1 Tachwedd 2011

                   YR ATODLEN      Rheoliad 2

SCHEDULE 4

ADULT POPULATION FIGURES

 

Billing authority area

Prescribed figure

Blaenau Gwent

54,004

Bridgend

105,929

Caerphilly

134,673

Carmarthenshire

143,689

Cardiff

272,304

Ceredigion

63,698

Conwy

89,004

Denbighshire

76,881

Flintshire

117,823

Gwynedd

95,280

Isle of Anglesey

54,571

Merthyr Tydfil

43,525

Monmouthshire

69,652

Neath Port Talbot

109,040

Newport

108,804

Pembrokeshire

92,272

Powys

105,181

Rhondda Cynon Taf

184,181

Swansea

187,410

Torfaen

70,994

Vale of Glamorgan (The)

97,332

Wrexham

105,385

 

 

 



([1])           1988 p.41. 

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) - gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hynny’n arferadwy gan Weinidogion Cymru.

([3])           O.S. 1992/3238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280),  2005/3345 (Cy.259), 2006/3347 (Cy.307), 2007/3343 (Cy.295), 2008/2929 (Cy.258), 2009/3147 (Cy. 274) a 2010/2889 (Cy.239).